Home » Llandudno » Y Tîm

Y Tîm

Dr Tony Lidington (sef Uncle Tacko!)

Dr Tony Lidington yw arbenigwr arweiniol y wlad mewn adloniant glan môr Prydain a chwmnïau pierrot

Dr Tony Lidington
Uncle-Tacko-Flea-Circus-outdoors-with-crowd-and-bunting

Mae Dr. Lidington wedi bod yn ymchwilio’r testun am dros 3 degawd ac ef oedd yn rhedeg y cwmni pierrot glan môr, proffesiynol olaf, ‘The Pierrotters’ am 27 mlynedd o 1983-2010!

Derbyniodd ei ddoethuriaeth ar y pwnc yn 2017 ac erbyn hyn mae’n darlithio ac yn darlledu’n genedlaethol, yn ogystal ag addysgu’r gelfyddyd i ymarferwyr.

Anarchic-family-fun-with-'The-Pierrotters'-Southport
Hwyl anarchaidd i’r teulu gyda ‘The Pierrotters’ yn Southport

Wedi ei ysbrydoli gan yr impresario pierrot, Will Catlin, a adeiladodd ‘The Arcadia’ yn Llandudno lle mae Venue Cymru wedi’i leoli heddiw a’r caffi wedi ei enwi ar ei ôl, mae Tony wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr hanes o Brifysgol Bangor i ymchwilio i hanes y gelfyddyd parti theatraidd pierrot yn Llandudno. Casglwyd deunyddiau ac atgofion o archifau, amgueddfeydd a phobl leol – yn cynnwys disgynyddion o deulu Will Catlin.

Mae’r deunyddiau wedi dod ynghyd ar y wefan hon a byddent hefyd yn ffurfio rhan o arddangosfa deithiol o baneli, ffilmiau a memorabilia, o’r enw ‘Seaside Follies’, a fydd yn ymweld â lleoliadau lleol dros y flwyddyn nesaf.

Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau cyhoeddus ar y pwnc gan Dr Lidington ym Mhrifysgol BangorCymdeithas Hanesyddol Llandudno ac yn Venue Cymru.

Will-Catlin-seaside-pierrot-impresario
Will Catlin seaside pierrot impresario
Will-Catlin-as-a-pierrot
Will Catlin as a pierrot
Margot-Catlin-(daughter-of-Will)-Jane-Smith-(granddaughter-of-Will)-&-Dr-Tony-Lidington
Margot Catlin (daughter-of-Will) Jane Smith (granddaughter-of-Will) &-Dr Tony Lidington
Scroll to Top